This page is a translated version of the page Wikimania and the translation is 82% complete.
Outdated translations are marked like this.

Dychmygwch fyd ble mae holl wybodaeth y blaned ar gael at ddefnydd pob un person, yn rhydd ac agored. #wikimania2014

Watch the videos on youtube
Watch the videos on Commons (coming soon)
Watch the videos from livestream
Check out the programme!
See who else was there: Hello world!

Beth yw Wicimania?

Cynhadledd, gwrthgynhadledd, gŵyl, cyfle i gyfarfod, gweithdy, hacathon a pharti ar gyfer 2,000 o bobl ydy Wicimania. Fe'i cynhelir dros bum niwrnod yn Awst 2014, ac fe'i rhagflaenir a'i dilynir gan ddigwyddiadau ymylol. Dyma ddigwyddiad blynyddol swyddogol y mudiad Wicifryngau, lle gallwch ddarganfod bob math o brosiectau y mae pobl yn eu gwneud gyda wicis a chynnwys agored, yn ogystal a chwrdd a'r gymuned a gynhyrchodd y wici enwocaf erioed, Wicipedia!

Cynhelir y prif ddigwyddiad yn (ac o amgylch) Canolfan y Barbican yn Llundain. Mae croeso i bawb, boed yn arbenigwr, yn rhywun brwdfrydig, yn ddechreuwr neu'n rhywun ar ddechrau'r daith!



Ynghylch y wici
Y diweddaraf ynghylch Prosiectau Wicimedia.

Wikipedia is a household name — in fact, it’s now one of the five most popular websites in the world, clocking over 21 billion hits every month. With over 110m pages across 287 languages, and a dozen sister projects including dictionaries, newspapers, multimedia repositories and travelguides, it's come a long way since its founding in 2001; the community has grown, the technology has developed, and the organisation has matured. However, there are still sweeping changes to come. more…


Cydweithio Digidol:
Sut all teclynnau meddalwedd ddatgloi ein potensial?

Bellach mae prosiectau Wicimedia'n denu dros 21 biliwn o ymweliadau bob mis i dudalennau sydd wedi'u creu'n gydweithredol gan dros ddeg miliwn ar hugain o gyfrannwyr, gan ei gwneud yn un o'r pum gwefan mwyaf poblogaidd yn fyd-eang, ac yn un o'r cymunedau arlein mwyaf. Sut mae cymuned o'r maint hwn yn gweithio, a sut mae wedi ymdopi gyda'r fath dwf? rhagor...


Dyfodol Addysg:
Nawr fod Wicipedia wedi gwneud gwaith cartref pawb, beth sydd ar ôl i'w ddysgu?

O'r ysgol gynradd hyd ddiwedd y brifysgol, mae Wicipedia'n ganolog yn y cwestiwn beth yw ystyr 'gwybod' a 'dysgu'. Mae casglu a chynnal 'holl wybodaeth y blaned' yn daith hir iawn, ond mae dcasglu a chynnal talp enfawr o'r cwricwlwm wedi'i wneud yn barod. P'run ai plentyn 8 oed sy'n awchus lyncu ffeithiau neu fyfyriwr prifysgol sy'n blasu gwybodaeth newydd ac yn ymchwilio i ffynhonellau dibynadwy, mae Wicipedia'n addas ac yn cael ei defnyddio fel man cychwyn llawer o'r gwaith. Mae rhwyddineb Wicipedia yn herio safonnau addysgol confensiynol sydd am flynyddoedd wedi mynnu fod gwybodaeth yn rhywbeth prin, dethol ac yn anodd i'w hatgynhyrchu. Beth fydd ymateb yr hen drefn nawr mae darganfod gwybodaeth yn rhywbeth syml? Yn y rhan hon byddwn yn ymchwilio i effaith (neu impact) Wicipedia ar hyd a lled y byd addysg a'r dulliau mae cyfrannu i Wicipedia yn weithgaredd cwricwlar. rhagor...


Data Agored:
Does dim y tu hwnt i'n cyrraedd pan fydd holl wybodaeth yr hil ddynol ar gael i bawb?

Prosiect newydd gan Sefydliad Wicimedia ydy Wikidata|Wicidata: mae am ddim, yn agored i bawb, yn ffrwyth cydweithio gan lawer, yn amlieithog ac yn gronfa ddata eilradd sy'n gefn i Wicipedia, Comin Wicimedia a phrosiectau eraill. Gall dyfu i fod y gronfa fwyaf o ddata a welwyd erioed ar ein planed. Mae'r ffordd o'n blaenau'n ddiddiwedd! mwy...


Ysgoloriaeth Agored:
Beth fydd yn digwydd pan fydd gwybodaeth arloesol y natur ddynol ar gael i bawb?

Yn 2013 gwnaed dros 500,000 darn o waith academaidd, agored, ym mhob pwnc - mwy nag erioed o'r blaen. Gellir cyfeirio at y gwaith hwn o Wicipedia a'u darllen gan bobl o bob cwr o'r byd sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd. Mae'r lefel yma o fynediad yn flaenllaw iawn ac yn torri tir newydd na welwyd erioed mo'i debyg drwy gydol hanes yr hil ddynol. Gall hyn roi pwer aruthrol yn nwylo pobl drwy agor drysau academia led y pen, fel nas gwelwyd erioed o'r blaen. rhagor...


Diwylliant rhydd ac am ddim:
Ni ddylai neb fod yn berchen ar holl wybodaeth y blaned. Sut y gallwn sicrhau na ddigwydd hynny?

Os crewch rhywbeth gwreiddiol, mae ei berchnogaeth yn eiddo i chi'n naturiol ac yn otomatig, sy'n nacáu hawl eraill i'w ddefnyddio heb eich caniatâd. Bu sawl ymgais dros y blynyddoedd i greu trwyddedau rhyngwladol sy'n caniatáu i chi gyhoeddi eich gwaith gwreiddiol fel y gall unrhyw berson ei ddefnyddio, ond gyda chymaint o dirigaethau, ffeiliau a thrwyddedau gwahanol, mae hyn yn goblyn o dasg ac yn anodd iawn i'w ddeall. more…




Noddwyr

Partneriaid

Partneriaid Mewn Cyfathrebu

If you are interested in sponsoring next year's Wikimania, please contact wikimania-sponsorship@wikimedia.org

Volunteers

Wikimania was made possible by the 1000s of hours of work by 100s of volunteers


References